Casgliad o waith gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn y cwrs BA Hysbysebu Creadigol yw CMYK. Cafodd yr arddangosfa ddigidol a’r digwyddiad lansio ar-lein eu synio a’u creu ar ddiwedd yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn eithriadol iddyn nhw.
Mae trawsnewid digidol wedi’i gofleidio wrth greu eu harddangosfa, gan mai eu bwriad yw aflonyddu ar arferion analog hysbysebu a dod â CMYK i’r byd digidol. Yn arwyddocaol, gan eu bod yn grŵp o ferched i gyd, eu bwriad yw mynd i’r afael hefyd â’r duedd o ran rhywedd hanesyddol sydd wedi bodoli yn niwydiant hysbysebu’r gorffennol.
Trwy eu gwaith, a’r heriau maent wedi’u hwynebu, maent yn dangos yn glir mai rôl ymarferydd creadigol yw deall, cofleidio a datrys problemau neu rwystrau pan fyddant yn codi. Rydym mor falch bod ein myfyrwyr wedi ateb yr her hon.