ELLIE SHUTT

DYLUNIO MODUROL A CHLUDIANT

HANES ELLIE

Mae lefelau straen a phryder byd-eang yn tyfu wrth i’r boblogaeth weithio’n hirach ac yn galetach. Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r pwnc tabŵ hwn wrth ddylunio profiad ymreolaethol sy’n tawelu’r meddwl ac yn gwella’r synhwyrau. 

Pod ymreolaethol ar gyfer y flwyddyn 2050 yw I.G.-Z4 sy’n cyfleu hanfod Ikigai a Zen, wrth alluogi’r preswylwyr i greu profiad wedi’i deilwra sy’n hyrwyddo positifrwydd a chysylltedd â natur. Wedi’i ysbrydoli gan ddiwylliant Japan a gerddi Zen, nod interior I.G.-Z4 yw dod â’r tu allan i mewn trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol ac organig. 

Mae’r tair blynedd diwethaf wedi fy ngalluogi i archwilio gwahanol lwybrau Dylunio Moduro fel ymchwil, ysbrydoliaeth, paled lliw, UE ac UI. Mae’r llwybrau hyn wedi tanio fy niddordeb ac angerdd am R&D prosiect yn ogystal â chreu byrddau ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau sy’n dylanwadu ar ddylunio lliw a trim ynghyd â delweddu 3D o fy ngwaith. Rwy’n gobeithio parhau â’r angerdd hwn fel gyrfa ar ôl graddio. 

Mae cwblhau rhan o fy nghwrs yn Gymraeg hefyd wedi caniatáu imi weithio gyda myfyrwyr o wahanol ddisgyblaethau a chymryd rhan mewn arddangosfeydd ledled Cymru, yn ogystal â chael Gwobr Dydd Gŵyl Dewi 2021.