CELF GAIN

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

'CELF GAIN'

Mae Celfyddyd Gain: Stiwdio, Safle a Chyd-destun yn gwrs celf israddedig i’r 21ain Ganrif lle caiff ein myfyrwyr brofiad o weithio gydag ystod o ddeunyddiau, cyfryngau a dulliau athronyddol. Mae ein cwrs yn adlewyrchu’r amrywiaeth a’r trafodaethau yn y byd celf weledol  ehangach felly daw’r myfyrwyr i sylweddoli eu bod yn rhan o gymuned fyd-eang o ymarferwyr celf. Nid yw’n wir o reidrwydd y bydd pob myfyriwr yn dymuno mynd yn artistiaid amser llawn ar ôl gorffen y cwrs ond gyda’r wybodaeth a ddysgant, mae ganddynt yr adnoddau i archwilio ystod eang o lwybrau gyrfa sy’n seiliedig ar gelf. Rydym ni’r staff yn artistiaid cydnabyddedig sy’n ymarfer yn rhyngwladol, gan ddod â’r byd proffesiynol yn nes at brofiad addysgol y myfyriwr. 

Mae Covid19 wedi creu heriau ac rydym ni fel cwrs wedi parhau i weithio’n ddiogel yn ein stiwdios, gan baratoi’r stiwdios o’r diwedd ar gyfer arddangosfa hollol ffisegol wedi’i churadu. Yn ogystal â’u sioe raddio caiff ein myfyrwyr fanteisio gyda’i gilydd ar weithdai haf a gynhelir gan Axisweb cyn bo hir a byddwn yn cyflwyno am yr ail flwyddyn yn olynol ar Raglen Cymrodoriaeth Step Change y Gronfa Les Artistiaid. 

Play Video