Fe fyddai’n anodd dod o hyd i deitl mwy addas ar gyfer arddangosfa eleni o waith ein graddedigion BA(Anrh) Dylunio Graffig. Yn rhannol oherwydd drwy gyferbyniad, bu’r flwyddyn hon yn wahanol i unrhyw un o’r blaen. Ond gadewch i ni beidio â gwastraffu geiriau gwerthfawr. Gwell o lawer dathlu talentau cyferbyniol yr eneidiau gwydn hyn, sy’n brwydro eu ffordd i’r dyfodol yn erbyn galluoedd cryfach.
Felly, beth hoffech chi ei weld? Teipograffeg twt? Darlunio gwych? Creadigrwydd cydwybodol? Pecynnu perffaith?Ffeithluniau ysbrydoledig, efallai? Hunaniaeth brand beiddgar? Hyder masnachol? Arbrofion anhygoel? Neu efallai hyfrydwch sy’n gwneud i chi chwerthin yn uchel? Mae’n bleser gennym gadarnhau eu bod yn gallu gwneud y cyfan. Peidiwch ag addasu’r cyferbynnedd. Maent yn barod i hedfan, ac ydyn, maen nhw wirioneddol yn dda.