DARLUNIO

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

'ANRHYDEDD'

Mae’n bleser gennyf gyflwyno ein harddangosfa graddedigion Darlunio, Anrhydedd.  

 Mewn amser anodd mae ein myfyrwyr wedi ymdrechu fel unigolion ac fel grŵp. Mae’r sioe’n adlewyrchu’r urddas y mae ein myfyrwyr graddedig wedi’i ddangos yn eu gwaith a’r bri y maent wedi’i gael yn eu cyraeddiadau. Er bod Darlunio yn faes amlochrog, sydd â llawer o ymagweddau ac arddulliau unigryw, mae pob myfyriwr wedi’i uno ar yr un daith, i adrodd eu straeon trwy ddarlunio.  

Dros y tair blynedd ddiwethaf maent wedi datblygu i fod y darlunwyr roedd arnynt eisiau bod, pob un â’i lofnod gweledol unigryw ei hun, a phob un yn arddangos y proffesiynoldeb a ddisgwylir gan ddarlunwyr cyfoes.  

Mae’r sioe hon yn datgelu natur amrywiol darlunio, a’i rym. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau edrych ar y casgliad eclectig o waith.  

Ynghyd â thîm y cwrs, dymunaf lwyddiant a hapusrwydd i bob un myfyriwr.