ÔL-RADDEDIG

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

DEMICS – Ffilm Arddangosfa MA Deialogau Cyfoes

‘Yn ymwneud â phobl neu boblogaeth’ – mae’r ansoddair demic yn deillio o air yr Hen Roeg am ‘werinwr’ ac mae wedi’i ymgorffori mewn termau Saesneg cyfoes megis info-demic, academic, ac wrth gwrs, pandemic.  

DEMICS yw teitl ffilm arddangosfa gyfunol yn cynrychioli gwaith a luniwyd ar yr MA Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, rhaglen sy’n cynnig profiad ôl-raddedig unigryw i artistiaid a dylunwyr o amryfal lwybrau arbenigol, gydag amgylchedd ymchwil rhyngddisgyblaethol, staff arbenigol ac ystod eang o gyfleusterau.  Mae’r grŵp wedi goresgyn cyfyngiadau sylweddol gyda gwydnwch a chreadigrwydd i gynhyrchu ystod ryfeddol o waith amrywiol, pryfoclyd a blaengar sy’n adlewyrchu’n gelfydd ethos ac athroniaeth y rhaglen. 

Mae’r cyfyngiadau yn sgil Covid ar guradu arddangosfa ffisegol wedi arwain at ffilm arloesol ddolennog, sy’n chwarae’n barhaus, o arddangosfa gyfunol yn dangos arfer y graddedigion.  

Mae pob myfyriwr wedi llunio ymateb byr, yn seiliedig ar amser, fel gwahoddiad i archwilio eu corff ehangach o waith. Mae tâp ffilm DEMICS yn cynnwys hyperddolenni wedi’u hymgorffori – daliwch y llygoden drostynt i’w gweld, a’u dilyn os mynnwch.