Mae Dosbarth 2021 wedi wynebu heriau na wyddai neb ohonom eu bod ar y gorwel. Mae goroesi’r daith hon yn llwyddiannus dros y tair blynedd diwethaf wedi’u galluogi i ddod yn ddatryswyr problemau gwydn ac amryddawn, gan feistroli amryfal setiau sgiliau a gydnabyddir gan y diwydiant a dangos ymrwymiad a phroffesiynoldeb yn eu moeseg waith.
Dengys yr Arddangosfa hon sut mae ein graddedigion wedi ailddiffinio gwerth cynnyrch a dodrefn pob dydd trwy feddylfryd dylunio arloesol a dynamig. Mae’r hyn a welwch yn benllanw ar gryfder personol, myfyrio, dagrau a gwireddu. Mae’r Arddangosfa’n agor eich meddwl i ddyfodol sydd eto i’w ddiffinio.
Gobeithiwn y bydd yr Arddangosfa’n ddiddorol i chi ac yn eich ysbrydoli.
Matt Archer