PATRYMAU ARWYNEB

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

'PATRYMAU ARWYNEB  '

Er gwaethaf tri chyfnod clo, nid yw creadigrwydd Dosbarth 2021 wedi’i bylu.  Mae’r grŵp hwn o Raddedigion 3edd flwyddyn y BA a 4edd flwyddyn yr MDes Dylunio Patrymau Arwyneb wedi profi eu bod yn dalentog, yn wydn a phroffesiynol; gan fireinio eu hagwedd i gofleidio cyfleoedd wrth iddynt godi. A hwythau’n meddu ar set sgiliau amlddisgyblaethol sylweddol, mae Dosbarth 21 hyd yn oed yn fwy llythrennog yn ddigidol na chenedlaethau blaenorol, tra’n parhau i gynnal eu hangerdd a’u hymroddiad at waith llaw, defnyddioldeb a gwneuthuriad.  Nodweddir y gwaith eleni gan themâu blaengar sy’n ymwneud â llesiant, cyfrifoldeb trwy ddylunio, dihangdod a gorfoledd – mae rhywbeth rhyfeddol o obeithiol yn yr awyr. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Dosbarth 21 wedi cyflawni briffiau byw ardderchog – yn fwyaf nodedig gydag arweinwyr y diwydiant tecstilau byd-eang Patternbank, ac oriel celfyddydau gweledol a chymhwysol enwog Abertawe, Oriel Mission.Yn ystod y cyfnod yn arwain at y sioe, cafwyd llu o gyfleoedd; mae’r diwydiannau creadigol yn ymladd yn ôl, ac mae’r grŵp hwn o raddedigion yn gaffaeliad dymunol iawn iddynt. Byddant ar flaen y gad ymhlith cenhedlaeth newydd o ddylunwyr yn datrys problemau ac yn addasu i fyd ôl-bandemig.Maen nhw wedi cael ‘rhagrybudd’, maen nhw wedi bod yn gwneud eu gwaith cartref, mae’r rhaglen wedi bod yn eu paratoi ar gyfer y newid.  Gall y graddedigion hyn fynd i’r gweithle gan wybod eu bod wedi gallu esblygu i fod yn barod ar gyfer hyn, a’u bod yn barod i wneud effaith. 

Diolchwn i Ddosbarth 21 am y daith hon yr ydym ni i gyd wedi bod arni gyda’n gilydd – mae wedi bod yn heriol ar adegau, ac yn gyffrous ar adegau eraill.Byddwn yn gweld eisiau’r mannau rydym wedi’u rhannu’n ‘rhithiol’.  Rydyn ni wedi dod i adnabod anifeiliaid anwes, dweud helo wrth gyd-letywyr, wedi dysgu ble maen nhw’n cael y signal rhyngrwyd gorau, wedi gweld eu hystafelloedd yn trawsnewid i fod yn stiwdios ac wedi’u gwylio’n ffynnu.Cawsom ein cyffwrdd yn emosiynol wrth eu gweld yn ôl ar y campws, a’n hysbrydoli wrth eu gweld yn bwcio pob munud posibl ar rota’r gweithdy gyda’r gofynion cadw pellter cymdeithasol!  Ar adegau rydyn ni wedi bod yn bell iawn oddi wrth ein gilydd, ac wedi gweld eisiau ein stiwdio a’n gweithdai ar y 5ed llawr yn ofnadwy, ond rydyn ni wedi llwyddo i gadw gyda’n gilydd; mae cymuned greadigol y cwrs Dylunio Patrymau Arwyneb wedi ein clymu ynghyd ac wedi ein cynnal trwy’r cwbl.    

Ddosbarth 21, rydych chi wedi bod yn anhygoel! 

Georgia McKie    

Rheolwr Rhaglen