FFILM A THELEDU

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

'Ffilm a Theledu '

Mae pawb yn meddwl ei bod yn hen bryd i ni ddechrau siarad am y dyfodol.  Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r byd i gyd wedi gwasgu’r botwm oedi ar amser, a bellach mae’n bryd gwasgu’r botwm chwarae ar ein bywydau.  Mae ein graddedigion ar y cwrs BA Ffilm a Theledu yn edrych ar un peth yn unig, y dyfodol.  Dyfodol lle maent yn gobeithio gwneud gyrfa yn y diwydiant ffilm a lle bydd pobl mewn lleoliadau cyhoeddus unwaith eto’n gwylio eu ffilmiau, lle byddwn yn profi chwerthin, llefain ac ofn gyda’n gilydd.  Mae’r graddedigion ffilm hyn rydych ar fin eu gweld wedi treulio 3 blynedd yn arbrofi, yn herio ac yn llunio’r straeon a fydd yn gwneud i chi chwerthin, cydymdeimlo ac ystyried beth mae’n ei olygu i fod yn fyw yn 2021.  P’un a yw hyn drwy ffilm ddod i oed, natur gymhleth y teulu neu drwy lygaid llofrudd cyfresol, maent yn benderfynol o edrych ymlaen at y dyfodol a dechrau ysgrifennu eu penodau eu hun yn llyfr y genhedlaeth nesaf o storïwyr.