CREFFTAU DYLUNIO

SGROLIWCH I EDRYCH 

SGROLIWCH I EDRYCH 

'CLOSER'

Rydym yn falch iawn i gyflwyno’r garfan gyntaf o raddedigion y BA Crefftau Dylunio o Goleg Celf Abertawe yn nhrydedd flwyddyn y radd newydd gyffrous hon.  

Rydym yn canolbwyntio ar archwilio greddf chwilfrydig yn ymwneud â gwneuthuriad, defnyddioldeb, crefftwaith a dawn dylunio.  Mae ein myfyrwyr yn sicr wedi camu fyny o dan yr heriau ychwanegol o gyfnodau clo olynol ac er gwaethaf y cyfyngiadau hyn maent wedi dangos eu bod yn ddyfeisgar ac yn wydn.  

Rhoddir sylw i themâu megis ‘cyffwrdd a chysylltedd’, mynegiannau cadarnhaol o ‘lawenydd’, dathlu natur a’r gallu i ‘wenu’, fel ymateb uniongyrchol i’r bywyd rydyn ni i gyd wedi’i wynebu dros y flwyddyn ddiwethaf.   Mae’r myfyrwyr wedi sianelu’r amser hwn ac wedi dathlu’r mynegiant cysyniadol ac ymarferol sy’n greiddiol i’r rhaglen Crefftau Dylunio. 

Gan arbenigo mewn amrywiaeth o wydr, cerameg a gemwaith, mae’r garfan eleni wedi cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch hardd, lliwgar a meddylgar ac ymatebion cerfluniol. Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd ganddynt maent wedi parhau’n broffesiynol ac yn gadarnhaol, gan ymateb i’r sefyllfa hynod anarferol hon ag egni a ffocws a chreu gwaith cyffrous ac arloesol. Dymunwn bob lwc iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol ac fe’ch gwahoddwn i ddathlu gyda ni a dod i gael golwg fanylach. 

Y Tîm Crefftau Dylunio