PENSAERNIAETH

SGROLIWCH I EDRYCH 

SGROLIWCH I EDRYCH 

 

'PENSAERNÏAETH''

Mae cyd-destun diwylliannol a hinsoddol De-orllewin Cymru’n arbennig iawn. Caiff ein hysgol bensaernïaeth newydd ei hysgogi gan athroniaeth o ddylunio adeiladau a lleoedd sy’n ymateb i gyd-destun, sy’n gynaliadwy, sy’n ymgysylltu â diwylliant lleol. Rydym hefyd yn coleddu’r syniad bod pensaernïaeth yn rhywbeth ‘adeiledig’, cyffyrddadwy, sydd ag iaith ddylunio, dull pensaernïol.  

Mae stiwdio’r drydedd flwyddyn wedi’i chanoli ar yr ardal o amgylch Adeilad IQ y Brifysgol a’r Fforwm. Yn ystod rhan gyntaf y drydedd flwyddyn mae’r myfyrwyr yn datblygu uwchgynllun ar gyfer y rhan hon o’r hyn a arferai fod yn ardal y dociau.   Cyn iddi gael ei phennu’n safle i’w hailddatblygu, roedd gan yr ardal hanes hir fel ardal ddiwydiannol y dociau. Roedd Abertawe, a ddisgrifiwyd gan Dylan Thomas yn ‘lovely ugly town’ yn enwog am gynhyrchu copr yn y 18fed a’r 19eg ganrif a chyfeiriwyd ati fel ‘Copropolis’.  Erbyn 1850 roedd gan Abertawe fwy na 600 o ffwrneisi yn prosesu copr, tun a sinc. Cefnogwyd y fasnach allforio gan fflyd o 500 o longau a oedd wedi’u canoli yn ardal y dociau. Fel llawer o ddinasoedd ôl-ddiwydiannol mae Abertawe’n ail-ddyfeisio ei hun yn ganolfan ar gyfer diwydiannau diwylliannol a chreadigol   

Wedi iddynt lunio uwchgynllun ar gyfer yr ardal, mae’r myfyrwyr wedyn yn dewis safle o fewn eu huwchgynllun i ddatblygu cynnig dylunio. Yna mae’r myfyrwyr yn llunio briff – ar gyfer prosiect o’u dewis – sy’n ymateb i’r cyd-destun ffisegol a chymdeithasol.  Yn dilyn hynny maent yn llunio cynnig ar gyfer adeilad newydd – ac yn ei ddatblygu i lefel uchel o fanylder technegol ag iaith ddylunio benodol.