SYLFAEN

SGROLIWCH I EDRYCH

SGROLIWCH I EDRYCH

'GOROESI '

Wrth iddynt nesáu at ddiwedd y flwyddyn, rhoddir testun i’n myfyrwyr Sylfaen i’w ystyried ar gyfer eu prosiect terfynol. Y teitl eleni yw ‘Goroesi’ ac mae wedi ffurfio man cychwyn, sylfaen ymchwil, syniadau a deilliannau datblygiadol y gwaith a gyflwynir yn yr arddangosfa hon. 

Yn rhyfedd iawn, mae’r teitl ‘Goroesi’ yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn ein bywydau cysurus – mae trychinebau, a’r rhai sy’n eu goroesi, o ddiddordeb mawr i’r cyfryngau. Hefyd goroesi trafferthion personol megis salwch neu ddibyniaeth, ac yn y pen draw oroesiad y blaned. Gosodwyd y dasg i fyfyrwyr ofyn iddyn nhw eu hunain beth mae goroesi yn ei olygu iddyn nhw, yn bersonol ac ar y cyd. Beth sydd ei angen arnom er mwyn goroesi mewn man arbennig, ar adeg arbennig? Beth os gwyddom na allwn oroesi? Sut dylai’r artist neu’r dylunydd fynd i’r afael â’r materion hyn, yn athronyddol, yn ymarferol, yn wleidyddol neu’n bersonol? 

Bu eleni’n flwyddyn heb ei thebyg yn fy 20 mlynedd o weithio ar y cwrs Sylfaen, gyda blwyddyn academaidd lawn bron o gyfyngiadau Covid wedi ein gorfodi i aros yn ein cartrefi a heb allu mynychu mannau cyhoeddus a chymdeithasol. Mae’r myfyrwyr wedi mynd i’r afael â’r her hon, gan ymateb ag egni a brwdfrydedd i’r cyfnod ansicr y cawn ein hunain ynddo. Mae’n bleser mawr gennyf rannu’r creadigrwydd a amlygwyd drwy gydol y flwyddyn ar y cwrs Sylfaen ac rwy’n siŵr eich bod yn sylweddoli’r ymdrech a’r amser a dreuliwyd yn cynhyrchu’r casgliad hwn o waith.  

Hoffwn ddiolch i ffrindiau, teuluoedd a pherthnasau am eu cefnogaeth a’u hanogaeth. 

Hefyd hoffwn ddiolch i’m tîm staff craidd, Shellie, Anthony, Jason, Becky ynghyd â staff y gyfadran am eu cymorth, sef Dave, Craig, Julia a Martin. Diolch arbennig iawn i’m technegwyr Tash a Terri, sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u hamynedd. 

Yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i’r holl fyfyrwyr Sylfaen gan ddymuno pob llwyddiant i chi i gyd yn eich dyfodol creadigol. 

Katherine Clewett, Rheolwr Rhaglen, Tyst AU Celf a Dylunio Sylfaen